National Trust Cymru and Welsh Highland Railway team up to restore Fisherman’s Path at Aberglaslyn Pass in Beddgelert, Eryri (Snowdonia).
After winter storms and high river levels washed away a 100m section of the Fisherman’s path, the Welsh Highland Railway swapped its cargo of tourists for stone, reverting to its original purpose for a day.
Back in the early 20th century the trainline would’ve carried slate quarried at nearby Rhyd Ddu, however on 14 February it moved over 30 tons of aggregate and stone to within meters of the damaged footpath. Helping the National Trust Cymru footpath team to carry out essential repairs and improvements to this iconic path, in time for the main hiking season.
The Fisherman’s path is an exhilarating route tread by thousands of walkers each year, it follows the Afon Glaslyn closely and its proximity to the river is no doubt part of the appeal. As part of the repairs the Trust will be upgrading the drains along this section to help minimise the risk from floods again.
Footpath Ranger, Jack Peyton said:
“We’re used to working in hard to reach, wild places and often rely on helicopters to move in the stone required for footpath maintenance and repairs.
“Eryri is a wet place, so erosion is an ongoing issue for us. The effects of climate change will likely increase the impact, making the maintenance and repairs of footpaths ever more important. A good footpath helps minimise the impact of erosion of soils and fragile upland habitats as well as allowing thousands of visitors to enjoy the area safely.”
“It’s been great to work with the Welsh Highland Railway and we’re especially grateful to them for donating the time and resources to help us repair this special footpath.”
The trainline runs parallel to the path and provides the only vehicle access on the East bank of the river at Aberglaslyn. Once the restoration of the line from Caernarfon to Porthmadog was completed in 2011, a special gate was installed near Bryn y Felin to allow the train to help with the upkeep of the path.
Chris Parry, Marketing Officer at Ffestiniog & Welsh Highland Railways said:
“It was a pleasure to be able to assist the National Trust with improvements to the Fisherman’s Path. Access there is always a problem when heavy equipment or material is needed, so a steam train was the ideal solution. Naturally we’re ready and available to help with any further work in the future.”
The stone (loaded onto the train by digger 4km downstream) was unloaded in three hours by a team of Welsh Highland Railway and National Trust Cymru staff and volunteers. The footpath team will use motorised wheelbarrows to carry the materials for the final leg of the journey.
It’s estimated that the footpath team of four will take a few weeks to complete the repairs in time for the busy spring months, when Beddgelert is a bustling hub for walkers exploring the fantastic network of paths in the area.
Thanks to donations to Apêl Eryri, National Trust Cymru’s footpath team can care for a network of over a 100km of footpaths in every corner of Eryri, helping thousands of visitors enjoy the nature and beauty of this dramatic landscape each year.
Llwybr poblogaidd y Pysgotwyr ym Meddgelert wedi’i atgyweirio diolch i daith gludo arbennig gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Rheilffordd Eryri yn cydweithio i adfer Llwybr y Pysgotwyr ym Mwlch Aberglaslyn, Beddgelert, Eryri.
Wedi i stormydd y gaeaf a llif uchel yn yr afon ysgubo 100m o Lwybr y Pysgotwyr i ffwrdd, newidiodd Rheilffordd Eryri ei chargo arferol o dwristiaeth am gerrig, gan ailgydio yn ei gwaith gwreiddiol am ddiwrnod.
Yn ôl tua dechrau’r 20fed ganrif, byddai’r rheilffordd yn cludo llechi o chwarel yn Rhyd-ddu i Borthmadog, ond ar 14 Chwefror, bu’n symud dros 30 tunnell o agregau a cherrig hyd at ychydig fetrau o’r llwybr a oedd wedi’i ddifrodi. Roedd hyn yn helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal gwaith atgyweirio a gwneud gwelliannau i’r llwybr enwog hwn mewn pryd ar gyfer y prif dymor cerdded.
Mae’r daith drawiadol ar hyd Llwybr y Pysgotwyr yn un drawiadol sy’n cael ei throedio gan filoedd o gerddwyr bob blwyddyn, mae’n dilyn glannau Afon Glaslyn ac mae’r ffaith ei fod mor agos at yr afon yn sicr yn rhan o’r apêl. Fel rhan o’r gwaith atgyweirio, bydd yr Ymddiriedolaeth yn uwchraddio’r draeniau ar hyd y rhan hon o’r llwybr i helpu i leihau’r risg gan lifogydd eto.
Dywedodd Jack Peyton, sy’n Geidwad Llwybrau, “Rydym wedi arfer gweithio mewn lleoliadau gwyllt, anodd i’w cyrraedd ac rydym yn dibynnu’n aml ar hofrenyddion i gludo’r cerrig sydd eu hangen ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau.
“Mae Eryri yn lle gwlyb, felly mae erydu yn her barhaus i ni. Mae’n debyg y bydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu pethau, felly bydd cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau yn bwysicach fyth. Mae llwybr da yn helpu i leihau effaith erydu ar briddoedd a chynefinoedd bregus yr ucheldir yn ogystal â galluogi miloedd o ymwelwyr i fwynhau’r ardal yn ddiogel.”
“Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio gyda Rheilffordd Eryri ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am gyfrannu’r amser a’r adnoddau i’n helpu ni i atgyweirio’r llwybr arbennig hwn.”
Mae’r rheilffordd yn teithio’n gyfochrog â’r llwybr a dyna’r unig ffordd i gerbydau deithio ar lan Ddwyreiniol yr afon yn Aberglaslyn. Pan gwblhawyd y gwaith o adfer y lein o Gaernarfon i Borthmadog yn 2011, gosodwyd giât arbennig ger Bryn y Felin i alluogi’r trên i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw’r llwybr.
Dywedodd Chris Parry, Swyddog Marchnata Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri “Roedd yn bleser gallu helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda gwelliannau i Lwybr y Pysgotwr. Mae mynediad bob amser yn broblem pan fydd angen offer neu ddeunydd trwm, felly trên stem oedd yr ateb delfrydol. Yn naturiol rydym yn barod ac ar gael i helpu gydag unrhyw waith pellach yn y dyfodol.”
Cafodd y cerrig (a oedd wedi’u llwytho ar y trên gan beiriant codi 4km yn is i lawr yr afon) eu dadlwytho mewn tair awr gan dîm o staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Eryri ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Bydd y tîm llwybrau’n defnyddio berfâu modur i gludo’r deunyddiau ar ran olaf y daith.
Amcangyfrifir y bydd y pedwar aelod o’r tîm llwybrau yn cwblhau’r gwaith atgyweirio mewn ychydig wythnosau, mewn pryd ar gyfer misoedd prysur y gwanwyn pan fydd Beddgelert yn croesawu’r llu o gerddwyr fydd yn crwydro rhwydwaith llwybrau anhygoel yr ardal.
Diolch i gyfraniadau i Apêl Eryri, mae tîm llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gallu gofalu am rwydwaith o dros 100km o lwybrau ym mhob cornel o Eryri, gan helpu miloedd o ymwelwyr i fwynhau natur a phrydferthwch y dirwedd ddramatig hon bob blwyddyn.