We were delighted to pick up the ‘Best Attraction’ prize at the recent National Tourism Awards for Wales.
The highly anticipated National Tourism Awards for Wales took place on the 27th of March at Venue Cymru in Llandudno. Hosted by Visit Wales, the event celebrated the best of the tourism industry throughout the country.
In November 2024, we were awarded the ‘Go Attraction of the Year’ award at the Regional Go North Wales Tourism Awards and as a result, qualified for these National Wales Awards.
Our General Manager, Paul Lewin and Stephen Greig, our Visitor Experience Manager, attended the awards ceremony in March and were both delighted to pick up the prestigious prize.
Paul Lewin said:
“Receiving this award is a huge honour and is testament to the hard work of all our staff and volunteers, I would like to take this opportunity to thank everyone for their hard work.”
Stephen Greig said:
“This is a fantastic achievement, and we are very proud that we can display both our ‘Go Attraction of the Year’ and ‘Best Attraction’ awards at our stations for our visitors to see. Now, the challenge is to build on these achievements during the upcoming season, continuing to provide our passengers with an unforgettable experience; there’s no time for complacency.”
Since winning the award, our attention has now turned to the start of a new season.
Our first passenger train of the new season; ‘The Harbourmaster’, set off from Harbour Station on Saturday, 29th of March and we are now looking forward to what we hope will be a busy 2025!
Why not take a ride on our railways by booking your tickets here.
Roedden wrth ein bodd i gasglu yr ‘Atyniad Gorau’ yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar.
Cynhaliwyd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ar y 27ain o Fawrth yn Venue Cymru yn Llandudno. Wedi’i gynnal gan Croeso Cymru, roedd y digwyddiad yn dathlu’r gorau o’r diwydiant twristiaeth ledled y wlad.
Ym mis Tachwedd 2024, dyfarnwyd gwobr ‘Atyniad y Flwyddyn’ i’r rheilffordd yng Ngwobrau Twristiaeth Rhanbarthol ‘Go North Wales’ ac o ganlyniad, cymhwysodd ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol Cymru hyn.
Mynychodd ein Rheolwr Cyffredinol, Paul Lewin a Stephen Greig, ein Rheolwr Profiad Ymwelwyr, y seremoni wobrwyo ym mis Mawrth ac roedd y ddau wrth eu bodd i gipio’r wobr fawreddog.
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd enfawr ac yn dyst i waith caled ein holl staff a gwirfoddolwyr, hoffwn ddefnyddio y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled.” – Paul Lewin.
“Mae hwn yn gyflawniad gwych, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu arddangos ein gwobrau ‘Go Atyniad y Flwyddyn’ ac ‘Atyniad Gorau’ yn ein gorsafoedd i’n hymwelwyr eu gweld. Nawr, yr her yw adeiladu ar y llwyddiannau hyn yn ystod y tymor sydd i ddod, gan barhau i roi profiad bythgofiadwy i’n teithwyr; does dim amser i fod yn hunanfodlon.” – Stephen Greig
Ers ennill y wobr, mae ein sylw bellach wedi troi at ddechrau tymor newydd.
Gadawodd ein trên teithwyr cyntaf y tymor; ‘Yr Harbwrfeistr’ o Orsaf yr Harbwr ar Ddydd Sadwrn, 29ain o Fawrth ac rydym yn edrych ymlaen yn awr at yr hyn y gobeithiwn fydd yn 2025 prysur!
Beth am fynd ar daith ar ein rheilffyrdd drwy archebu eich tocynnau yma.


