The news many of you have been eagerly anticipating is here… Tickets for our 2022 services are now on sale!
Our season will begin on the 26th of March 2022, and we will initially operate in much the same way as last year, allowing customers to purchase either a full return journey on these services or, alternatively, a one-way ticket between the principal stations.
Our journey options this year will include:
- Woodland Wanderer: Porthmadog - Tan-y-Bwlch
- Mountain Spirit: Porthmadog - Blaenau Ffestiniog
- Gelert Explorer: Caernarfon - Beddgelert
- Glaslyn Venturer: Porthmadog - Beddgelert
- Snowdonia Star: Caernarfon - Porthmadog
- The Harbourmaster: Porthmadog – Caernarfon
Slight variations have been made to the seating arrangements on our services – with the exception of the ‘Woodland Wanderer’, which will continue with separated compartments in heritage carriages.
To increase flexibility, solo travellers will now pay the fare for one person and be allocated a two-seater table, parties of 2-4 passengers will be assigned a four-seater table, with groups of 5-6 being allocated a six-seater bay.
The ability to board and depart at specific intermediate stations, as well as return journeys beginning at Blaenau Ffestiniog, will be introduced later in the season. However, limited advanced booking will be available from Beddgelert and Waunfawr stations from the start of the season.
Full details of our 2022 services can be found on the ‘Train Services’ page.
Bookings for trains between late March and October are now OPEN.
We are counting down the days until we can welcome you all back to the Ffestiniog & Welsh Highland Railways – it won’t be long now!
Mae’r newyddion y mae llawer ohonoch wedi bod yn ei ddisgwyl yn eiddgar wedi cyraedd… Mae tocynnau ar gyfer ein gwasanaethau 2022 nawr ar werth!
Bydd ein tymor yn dechrau ar 26 Mawrth 2022, a byddwn yn gweithredu yn yr un modd â llynedd i gychwyn, drwy ganiatau i gwsmeriaid brynu naill ai taith ddwyffordd llawn ar y gwasanaethau hyn neu, fel arall, tocyn unffordd rhwng y prif orsafoedd.
Bydd ein opsiynau teithio eleni yn cynnwys:
- Crwydrwr y Goedwig: Porthmadog – Tan-y-Bwlch
- Ysbryd y Mynydd: Porthmadog – Blaenau Ffestiniog
- Fforiwr Gelert: Caernarfon – Beddgelert
- Anturiwr Glaslyn: Porthmadog – Beddgelert
- Seren Eryri: Caernarfon – Porthmadog
- Yr Harbwrfeistr: Porthmadog – Caernarfon
Mae rhai newidiadau mân wedi’u gwneud i’r trefniadau eistedd ar ein gwasanaethau – heblaw am y ‘Crwydrwr y Goedwig’, a fydd yn parhau gydag adrannau ar wahân mewn cerbydau treftadaeth.
Er mwyn cynyddu hyblygrwydd, bydd teithwyr unigol nawr yn talu’r pris am un person ac yn cael bwrdd dwy sedd, bydd grwpiau o 2-4 o deithwyr yn cael bwrdd pedair sedd, gyda grwpiau o 5-6 yn cael bae chwe sedd.
Bydd y gallu i ymuno a gadael y trên mewn gorsafoedd canolradd penodol, yn ogystal â theithiau dwyffordd sy’n dechrau ym Mlaenau Ffestiniog, yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y tymor. Fodd bynnag, bydd ychydig o archebion ymlaen llaw ar gael o orsafoedd Beddgelert a Waunfawr o ddechrau’r tymor.
Gall fanylion llawn am ein gwasanaethau 2022 cael i’w gweld ar y dudalen ‘Train Services’ ar ein gwefan.
Mae archebion ar gyfer trenau rhwng ddiwedd mis Mawrth a mis Hydref bellach AR AGOR.
Cliciwch yma i archebu eich tocynnau
Rydym yn cyfri’r dyddiau nes y gallwn ni eich croesawu chi yn ôl i Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri – fydd hi ddim yn hir nawr!