Want to find out more about our Railways? We are excited to offer these new activities in addition to our popular train journeys.
For the first time ever, you can go ‘behind the scenes’ on a guided tour of our engineering works to see where fascinating characters have built and maintained carriages, locomotives, and waggons for nearly 200 years.
Or enrol in a workshop for a unique opportunity to find out how a steam engine works and then have a go at driving one yourself.
These experiences are led by passionate railway volunteers, who will bring the railways to life with their in-depth knowledge. Hear their stories about the special people that shaped the railway from the beginning to the present day.
Take a look at our upcoming Tours and Workshops below.
Thanks to the Interpretation & Boston Lodge Project, made possible by the National Lottery Heritage Fund, Ffestiniog Railway Society and FfWHR Trust.

Boston Lodge Tours
Take a short train journey across the Cob and travel back in time to discover the story of the oldest, continually operating railway workshops in the world! Our ‘Behind the Scenes’ tours of Boston Lodge Works have morning and afternoon options available.

How Steam Locomotives Work
These three-hour workshops give you a chance – in a small group – to learn more about how a steam loco works. Two of our friendly loco drivers/fitters with in-depth experience of building, maintaining and driving locos will take you through the way a steam engine works.
Yda chi eisiau darganfod mwy am ein Rheilffyrdd? Rydym yn gyffrous i gynnig y gweithgareddau newydd hyn yn ychwanegol i’n teithiau trên boblogaidd.
Am y tro cyntaf erioed, gallwch fynd ‘tu ôl i’r llenni’ ar daith dywys o amgylch ein gweithdai peirianneg i weld lle mae cymeriadau hynod ddiddorol wedi adeiladu a chynnal a chadw cerbydau, locomotifau a wagenni ers bron i 200 mlynedd.
Neu cofrestrwch mewn gweithdy am gyfle unigryw i ddarganfod sut mae injan stêm yn gweithio ac yna rhowch gynnig ar yrru un eich hun.
Arweinir y profiadau hyn gan wirfoddolwyr angerddol y rheilffyrdd, a fydd yn dod â’r rheilffyrdd yn fyw gyda’u gwybodaeth fanwl. Clywch eu hanesion am y bobl arbennig a fu’n siapio’r rheilffordd o’r dechrau hyd at heddiw.
Cymerwch olwg ar ein Teithiau a Gweithdai sydd ar gael isod.
Diolch i Brosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge, a wnaed yn bosibl gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog ac Ymddiriedolaeth RhFfE.

Teithiau Boston Lodge
Bydd ein teithiau ‘tu ôl i’r llenni’ o Boston Lodge yn dechrau yn Haf 2024, gydag opsiynau ar gael yn y bore a’r prynhawn. Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (a sefydliadau ategol) a’n tîm prosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge am wneud y teithiau hyn yn bosibl.

Sut mae Locomotifau Stêm yn Gweithio
Mae’r gweithdai tair awr hyn yn rhoi cyfle i chi – mewn grwpiau bach – ddysgu mwy am sut mae locomotif stêm yn gweithio. Bydd dau o’n gyrwyr/gosodwyr cyfeillgar sydd â phrofiad manwl o adeiladu, cynnal a chadw a gyrru locomotifau yn mynd â chi drwy’r broses o sut mae injan stêm yn gweithio.

Gweithdai Sgiliau ‘Rho Gynnig Arni’
Dewch i roi cynnig ar sgil newydd! Bydd y gweithdai rhad ac am ddim hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu ac ymarfer sgiliau yn ein gweithdai hanesyddol. Mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud i raddau helaeth â bod yn ymarferol, gan roi’r cyfle i chi ymarfer eich sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel ac adeiladol.

Cwrdd â'r Arbenigwyr
Dewch draw i gwrdd ag arbenigwyr i ddysgu mwy am y manylion (hynny yw yr holl fanylion y gallech fod eu heisiau!) y tu ôl i’n rhyfeddodau peirianneg. Bydd y profiadau hyn yn gymysgedd o sgyrsiau/theori ac arddangosiadau ymarferol yn ein gweithdai hanesyddol yn Boston Lodge.