We’re taking part in The National Lottery Open Week, to say a huge thanks to National Lottery players for their support of our Interpretation and Boston Lodge Project.
To celebrate this occasion, on the 21st, 22nd and 23rd of March 2025, we will be offering free tours of Boston Lodge to visitors who bring a National Lottery ticket or scratch card with them. It’s as simple as that!
There will be morning and afternoon tours on all three of these dates, with visitors being taken from Harbour Station to Boston Lodge on a scheduled shuttle service.
The morning tour will depart Harbour Station at 10:10 and the afternoon tour will depart at 14:00. We ask all participants to arrive 30 minutes before departure, where they will meet their tour guide and receive their visitor vest.
Please wear warm clothes and bring a waterproof as the weather can be unpredictable. Stout shoes, preferably walking boots, must be worn. Anyone wearing sandals or open-toed shoes will not be allowed on the tour.
You will be met at Harbour Station by a Tour Guide where you will be given a safety briefing and Spooner’s will be open and serving refreshments.
Please note: Children under the age of 10 will not be permitted. Children aged between 10-15 years must be accompanied by an adult.
Book your place here…
Friday March 21st : 10:10 / 14:00
Saturday March 22nd : 10:10 / 14:00
Sunday March 23rd : 10:10 / 14:00
Rydym yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol, i ddweud diolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth o’n prosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge.
I ddathlu’r achlysur hwn, ar y 21ain, 22ain a 23ain o Fawrth 2025, byddwn yn cynnig teithiau am ddim o amgylch Boston Lodge i ymwelwyr sy’n dod â thocyn Loteri Genedlaethol neu gerdyn crafu gyda nhw. Mae mor syml â hynny!
Bydd teithiau bore a phrynhawn yn cael ei cynnal ar bob un o’r tri diwrnod, gydag ymwelwyr yn cael eu cludo o Orsaf yr Harbwr i Boston Lodge ar wasanaeth gwennol wedi’i amserlennu.
Bydd taith y bore yn gadael Gorsaf yr Harbwr am 10:10 a’r daith prynhawn yn gadael am 14:00. Gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan gyrraedd 30 munud cyn gadael, lle byddant yn cwrdd â’u tywysydd ac yn derbyn eu fest ymwelwyr.
Gwisgwch ddillad cynnes a dewch â dillad glaw oherwydd gall y tywydd fod yn anrhagweladwy. Rhaid gwisgo esgidiau cryf, yn ddelfrydol esgidiau cerdded. Ni chaniateir unrhyw un sy’n gwisgo sandalau neu esgidiau blaen agored ar y daith.
Bydd Tywysydd Taith yn cwrdd â chi yng Ngorsaf yr Harbwr lle byddwch yn cael sesiwn friffio diogelwch ac fydd Spooner’s ar agor ac yn gweini lluniaeth.
Sylwer: Ni chaniateir plant o dan 10 oed. Rhaid i blant rhwng 10-15 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Archebwch eich lle yma…
Dydd Gwener Mawrth 21ain : 10:10 / 14:00
Dydd Sadwrn Mawrth 22ain : 10:10 / 14:00
Dydd Sul Mawrth 23ain : 10:10 / 14:00