Come and try a new skill! These free workshops will give you a chance to learn and practice skills in our historic workshops
Our expert staff will start with some theory and explanations about what lies ahead but these events are very much about being hands on, giving you the opportunity to practice your new skills in a safe and constructive environment.
If you’re interested in these workshops – either for yourself or your group – but cannot attend at the publicised times, please do get in touch as we can probably accommodate some training at another suitable time.
Workshops are provided free of charge. Thanks to the Interpretation & Boston Lodge Project, made possible by the National Lottery Heritage Fund, Ffestiniog Railway Society and FfWHR Trust.
We obviously hope you will enjoy yourself so much you will want to return as a volunteer to apply your new skills on our amazing railway. These free workshops, however, come with no obligation at all; just come and have a go!

Welding
Discover or practice your welding skills. Ideal for those who want to try something new or to get advise from the professionals for your own car or DIY work!
Our expert welders will show you everything from basic principles up. Then you will plenty of chance to practice your new skills. The workshop will cover stick, MIG and TIG welding.
Small group sizes for these workshops mean that you receive a great deal of supervision and plenty of hands on practice.
This is a one-day workshop to give you a basic introduction to welding but further dates can be booked to give you the chance to build on earlier practice. Once you have reached a basic level of skill we can also facilitate some practice time in our workshops at most times, especially midweek.
So please get in touch with your availability and we’ll accommodate your training needs.
Dates: January 25th/26th (fully booked)
Duration: 1 or 2 days
Location: Boston Lodge Works

Lathe work/turning
Come and start your training in machine tools… or even take the opportunity to develop your existing skills with skilled tutors.
Workshop includes:
- Basics of turning/lathes
- Parallel turning
- Internal boring
- Parting off
- Basic screw cutting
Small group sizes for these workshops mean that you receive a great deal of supervision and plenty of hands on practice.
Duration: 2 Days
Location: Boston Lodge Works

Strip a Loco!
Autumn is the time when our experienced fitters dismantle some of our locos for renovation before hauling trains intensively again for the next season.
This year we’re giving you the chance to join in with the stripping down of one of our innovative double Fairlie engines. You’ll start with a locomotive still warm from running at our Bygones Weekend event. After some basic emptying of coal and water, the process of dismantling will begin and include the removal of one power bogie unit. Depending on progress, it is hoped that the power bogie will be fully stripped by the end of the week.
Attendance at all five days is not compulsory though that will allow you to see the full process. Please get in touch if you can join in on one or more days.
Duration: Up to 5 Days
Location: Boston Lodge Works

Painting
The ultimate transferrable skill! Come along and learn how to ‘properly’ paint ahead of your next decorating session at home!
All our locomotives and carriages are hand-painted. While we may start you off on some practice pieces you will learn from the highly-skilled painters who provide the mirror-like finishes on our award-winning locos and carriages.
Workshop includes:
- Preparation
- Surface finishes
- Brush techniques
Duration: Up to 5 Days
Location: Boston Lodge Works

Signwriting
Some and try your hand at creating our traditional hand-painted signs that you will see all over the railway. All our wooden signs are painted by hand; our experienced sign-writing team will show you how to work with a steady hand to create these beautiful, traditional signs.
Small group sizes for these workshops mean that you receive a great deal of supervision and plenty of hands on practice.
You may well even be able to create your own house name board or door label by the end of the workshop. Come armed with ideas!
Duration: 2 Days
Location: Minffordd

Hot Riveting
An ancient skill and one still very much in use today. This is a workshop full of fire, sparks and noise! Working as part of a coordinated team you will have the chance to experience this traditional skill, one that is still in use on our heritage vehicles and one that still works best in many applications.
Workshop includes:
- Basics of riveting
- Types of rivets
- Preparation
- Heating
- Riveting team roles
- Troubleshooting
Duration: 2 Days
What do I need to know before I come?
Boston Lodge is a working engineering site with rails and uneven surfaces throughout, often muddy in places and this is combined with frequent vehicle and train movements. For safety reasons it is therefore only suitable for people who are fully mobile without assistance and who’s sight is sufficient for them to see dangers themselves. Please watch this safety briefing before booking as it will help you understand what the site is like.
PPE will be provided as required for all workshops with the exception of safety boots which you will need to provide for yourself and are compulsory and overalls (over old clothes!) which are advised.
You will need to bring your lunch for all workshops as there is no catering on site but tea/coffee and soft drinks are provided (in limitless amounts!).
Accommodation
If you need local accommodation, please try our Volunteer Hostel which provides great value and a chance to meet other volunteers. Please make these bookings yourself. Details can be found here.
Booking
If you’re interested in these workshops – either for yourself or your group – but cannot attend at the publicised times, please do get in touch (Iain Wilkinson) as we may be able to accommodate other dates. To book your workshop place, please email Iain Wilkinson stating which workshop you would like to book.
Dewch i roi cynnig ar sgil newydd! Bydd y gweithdai rhad ac am ddim hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu a rhoi eich sgiliau ar waith yn ein safle gwaith hanesyddol
Bydd ein staff arbenigol yn dechrau gyda rhywfaint o theori ac esboniadau am yr hyn sydd o’n blaenau ond mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â bod yn ymarferol, gan roi’r cyfle i chi roi eich sgiliau newydd ar waith mewn amgylchedd diogel ac adeiladol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gweithdai hyn – naill ai i chi’ch hun neu i’ch grŵp – ond na allwch fynychu ar yr adegau a nodir, cysylltwch â ni gan y gallwn o bosibl ddarparu rhywfaint o hyfforddiant ar adeg arall sy’n addas i chi.
Darperir y gweithdai yn rhad ac am ddim. Diolch i’r Prosiect Dehongli a Boston Lodge, a wnaed yn bosibl gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog ac Ymddiriedolaeth FfWHR.
Rydym yn amlwg yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’ch hun a bydd yn hynny’n arwain at i chi fod eisiau dychwelyd fel gwirfoddolwr i roi eich sgiliau newydd ar waith ar ein rheilffordd anhygoel. Fodd bynnag, nid yw’r gweithdai rhad ac am ddim hyn yn dod gydag unrhyw rwymedigaeth; dewch i roi cynnig arni!

Weldio
Dewch i ddarganfod neu ymarfer eich sgiliau weldio. Mae’r gweithdy hwn yn wych i’r rhai hynny ohonoch sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu gael cyngor gan y gweithwyr proffesiynol am eich car neu waith DIY eich hun!
Bydd ein weldwyr arbenigol yn dangos popeth i chi, o’r gwaith mwyaf sylfaenol i’r pethau mwyaf cymhleth. Yna byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd. Bydd y gweithdy’n cynnwys weldio stick, MIG a TIG.
Mae maint bach y grwpiau ar gyfer y gweithdai hyn yn golygu y byddwch yn derbyn llawer iawn o oruchwyliaeth a digon o ymarfer ymarferol.
Mae hwn yn weithdy undydd gyda’r bwriad o roi cyflwyniad sylfaenol i weldio i chi ond gellir archebu dyddiadau pellach i roi cyfle i chi adeiladu ar y sgiliau a ddysgoch yn gynharach. Ar ôl i chi gyrraedd lefel sylfaenol, gallwn hefyd hwyluso rhywfaint o amser ymarfer yn ein safleoedd gwaith, yn enwedig yn ystod ganol yr wythnos.
Felly cysylltwch â ni gyda’r adegau y byddwch ar gael a byddwn yn ceisio diwallu eich anghenion hyfforddiant.
Hyd: 1 neu 2 ddiwrnod
Lleoliad: Safle Gwaith Boston Lodge

Gwaith turnio/troi
Dewch i ddechrau eich hyfforddiant ar sut i ddefnyddio offer peiriannol… neu hyd yn oed fanteisio ar y cyfle i ddatblygu eich sgiliau gyda thiwtoriaid medrus yn eich arwain.
Mae’r gweithdy’n cynnwys:
- Hanfodion troi/turnio
- Troi cyfochrog
- Turiad mewnol
- Partio
- Offer torri sylfaenol
Mae maint bach y grwpiau ar gyfer y gweithdai hyn yn golygu y byddwch yn derbyn llawer iawn o oruchwyliaeth a digon o ymarfer ymarferol.
Hyd: 2 ddiwrnod
Lleoliad: Safle Gwaith Boston Lodge

Tynnu Loco oddi wrth ei gilydd!
Yr hydref yw’r amser pan fydd ein gosodwyr profiadol yn tynnu rhai o’n locos oddi wrth ei gilydd i’w hadnewyddu cyn cludo trenau yn ddwys eto ar gyfer y tymor nesaf.
Eleni rydym yn rhoi cyfle i chi ymuno â ni i dynnu un o’n peiriannau Double Fairlie arloesol oddi wrth ei gilydd. Byddwch yn dechrau gyda locomotif sy’n dal i fod yn gynnes ar ôl gweithredu yn ein digwyddiad Penwythnos Bygones. Ar ôl gwagio’r glo a’r dŵr, bydd y broses o dynnu’r locomotif oddi wrth ei gilydd yn dechrau a bydd yn cynnwys cael gwared ar un uned bogie pŵer. Yn ddibynnol ar y cynnydd, y gobaith yw y bydd y bogie pŵer yn cael ei dynnu’n llawn oddi wrth ei gilydd erbyn diwedd yr wythnos.
Nid yw presenoldeb ar bob un o’r pum diwrnod yn orfodol er y bydd hynny’n caniatáu ichi weld y broses lawn. Cysylltwch â ni os gallwch ymuno ar un neu fwy o ddiwrnodau.
Hyd: Hyd at 5 diwrnod
Lleoliad: Safle Gwaith Boston Lodge

Peintio
Y brif sgil trosglwyddadwy! Dewch draw i ddysgu sut i baentio’n ‘iawn’ cyn eich sesiwn addurno nesaf gartref!
Mae ein holl locomotifau a’n cerbydau wedi’u paentio â llaw. Er y gallwch gychwyn gyda pheintio darnau mwy sylfaenol i ymarfer, byddwch yn dysgu gan yr arlunwyr medrus iawn sy’n darparu’r gorffeniadau llathraidd ar ein locomotifau a’n cerbydau sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gweithdy’n cynnwys:
- Paratoadau
- Gorffeniadau arwynebau
- Technegau brwsio
Hyd: Hyd at 5 diwrnod
Dyddiadau: I’w gadarnhau
Lleoliad: Safle Gwaith Boston Lodge

Ysgrifennu Arwyddion
Rhowch gynnig ar greu ein harwyddion traddodiadol wedi’u paentio â llaw y byddwch yn eu gweld ledled y rheilffordd. Mae ein holl arwyddion pren wedi’u paentio â llaw; bydd ein tîm ysgrifennu arwyddion yn dangos i chi sut i weithio gyda llaw gadarn i greu’r arwyddion hardd, traddodiadol hyn.
Mae maint bach y grwpiau ar gyfer y gweithdai hyn yn golygu y byddwch yn derbyn llawer iawn o oruchwyliaeth a digon o ymarfer ymarferol.
Efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu creu bwrdd gydag enw eich cartref arno neu label drws erbyn diwedd y gweithdy. Dewch gyda digon o syniadau!
Hyd: 2 ddiwrnod
Dyddiadau: I’w gadarnhau
Lleoliad: Minffordd

Rhybedu poeth
Sgil hynafol ac un sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Dyma weithdy llawn tân, gwreichion a sŵn! Gan weithio fel rhan o dîm cydlynol byddwch yn cael cyfle i brofi’r sgil draddodiadol hon, un sy’n dal i gael ei ddefnyddio ar ein cerbydau treftadaeth ac un sy’n dal i weithio orau mewn llawer o ffyrdd.
Mae’r gweithdy’n cynnwys:
- Hanfodion rhybedu
- Mathau o rybedu
- Paratoadau
- Systemau gwresogi
- Rolau’r tîm rhybedu
- Datrys problemau
Hyd: 2 ddiwrnod
Dyddiadau: I’w gadarnhau
Beth sydd angen i mi ei wybod cyn i mi gyrraedd?
Mae Boston Lodge yn safle peirianneg gweithredol gyda chledrau ac arwynebau anwastad ac yn aml mae’n fwdlyd mewn rhai llefydd. Mae hyn yn ogystal â symudiadau cerbydau a threnau sy’n digwydd yn aml. Am resymau diogelwch, dim ond ar gyfer pobl sy’n gallu symud o gwmpas heb gymorth ac sy’n gallu gweld peryglon eu hunain y mae’n addas. Gwyliwch y briff diogelwch hwn cyn archebu lle gan y bydd yn eich helpu i ddeall sut le yw’r safle.
Bydd PPE yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen ar gyfer pob gweithdy ac eithrio esgidiau diogelwch (sydd yn orfodol) y bydd angen i chi eu darparu eich hun ac fe’ch cynghorir i wisgo oferôls (dros hen ddillad!).
Bydd angen i chi ddod â’ch cinio eich hun ar gyfer pob gweithdy gan nad oes cyfleusterau arlwyo ar y safle ond darperir digonedd o de/coffi a diodydd meddal.
Llety
Os oes angen llety lleol arnoch, ystyriwch ein Hostel i Wirfoddolwyr sy’n rhoi gwerth gwych am arian ac yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â gwirfoddolwyr eraill. Dylech archebu lle eich hun yn yr Hostel. Gellir dod o hyd i’r manylion yma.
Booking
Archebu Lle
Os oes gennych ddiddordeb yn y gweithdai hyn – naill ai i chi’ch hun neu eich grŵp – ond na allwch fynychu ar yr adegau a nodir, cysylltwch â ni (Iain Wilkinson) gan y gallwn o bosibl ddarparu ar gyfer dyddiadau eraill. I archebu lle ar weithdy, anfonwch e-bost at Iain Wilkinson yn nodi pa weithdy yr hoffech chi archebu lle arno.