Come and have a go at driving a steam locomotive!

These three-hour workshops give you a chance – in a small group – to learn more about how a steam loco works. Two of our friendly loco drivers/fitters with in-depth experience of building, maintaining and driving locos will take you through the way a steam engine works.

Participants will get to help prepare a steam loco, see it in action behind the scenes (at our historic Boston Lodge workshops), receive information on ‘how it works’ and then have a go at firing and driving in the yard!

It’s all very friendly and relaxed… an ideal experience if you are looking for something a little different. This makes an ideal gift for anyone with even a passing interest in locos, heritage, engineering or simply the challenge of driving an unusual vehicle.

Don’t just take our word for it, read what past visitors have to say..!

  • “…definitely a tick off the bucket list. A great privilege to have such access. Will recommend…”
  • “A really wonderful experience fulfilling childhood fantasies. The driver and fireman were fab and fun.”
  • “Driver experience just what the doctor ordered. Great.”
  • “A great experience and very informative”
  • “A wonderful opportunity to see behind the scenes and get ‘up close and personal’ with the locomotives. Also to try driving – something I never thought I’d do. Safety and all information was well communicated; clear and thorough but never alarmist.”

With notice, we can also accommodate groups and may be able to put on private workshops on a date to suit for your family, work colleagues or social group. Please get in touch to find out more.

Please Note: the nature of the workshop site and the locos themselves means that attendees must be able to walk across uneven surfaces and climb up and down onto the locos.

We ask all attendees to read the information on the Workshop webpage carefully and watch the Safety Briefing video, before booking your ticket/s.

Unless specifically advertised all workshops and tours are for adults (16+).

What do I need to know before I come?

Boston Lodge is a working engineering site with rails and uneven surfaces throughout, often muddy in places and this is combined with frequent vehicle and train movements. For safety reasons it is therefore only suitable for people who are fully mobile without assistance and who’s sight is sufficient for them to see dangers themselves. Please watch this safety briefing before booking as it will help you understand what the site is like.

We are hoping to film some of our tours and make them available on the website so those who cannot attend because the site is unsuitable for them will be able to find out more online.

Getting here

You will be met at Harbour Station by an Event Leader who will give you an initial safety briefing before being taken to Boston Lodge on a scheduled train service. Car parking for our visitors is available in the fenced area at the end of the nearby Llyn Bach car park, a short walk away from Porthmadog Harbour Station. Parking is free for Railway passengers in this section only. The remainder of this car park is council run and the appropriate fee should be paid. (see map) Disabled badge holders may park at the station and should make themselves known to a station host on arrival.

What to wear

Please wear warm clothes and bring a waterproof, the weather can be unpredictable. Please wear stout, preferably leather, walking boots. Absolutely no sandals or trainers.

Rhowch gynnig ar yrru locomotif stêm!

Mae’r gweithdai tair awr hyn yn rhoi cyfle i chi – mewn grwpiau bach – ddysgu mwy am sut mae locomotif stêm yn gweithio. Bydd dau o’n gyrwyr/gosodwyr cyfeillgar sydd â phrofiad manwl o adeiladu, cynnal a chadw a gyrru locomotifau yn mynd â chi drwy’r broses o sut mae injan stêm yn gweithio.

Bydd cyfranogwyr yn cael helpu i baratoi locomotif stêm, ei weld ar waith y tu ôl i’r llenni (yn ein safleoedd gwaith hanesyddol yn Boston Lodge), cael gwybodaeth am ‘sut mae’n gweithio’ ac yna, rhoi cynnig ar danio a gyrru yn yr iard!

Mae’r cyfan yn brofiad cyfeillgar ac yn ymlaciol iawn… Profiad gwych os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol. Byddai hyn yn gwneud anrheg ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn locomotifau, treftadaeth, peirianneg neu dim ond eisiau’r her o yrru cerbyd anarferol.

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, darllenwch yr hyn sydd gan ymwelwyr blaenorol i’w ddweud..!

  • “… roedd hyn yn bendant yn rhywbeth oddi ar y ‘rhestr fwced’. Braint fawr oedd cael mynediad o’r fath. Byddaf yn argymell hyn i unrhyw un…”
  • “Profiad gwirioneddol wych yn cyflawni ffantasïau plentyndod. Roedd y gyrrwr a’r dyn tân yn wych ac yn llawn hwyl.”
  • “Profiad o yrru cerbyd. Yn union yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud. Gwych.”
  • “Profiad gwych ac addysgiadol iawn”
  • “Cyfle gwych i weld y tu ôl i’r llenni a chael golwg ‘agos a phersonol’ gyda’r locomotifau. Hefyd i roi cynnig ar yrru – rhywbeth doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n ei wneud. Cafodd yr holl wybodaeth ei chyfleu’n dda iawn; yn glir ac yn drylwyr ond byth mewn modd “

Gyda rhybudd ymlaen llaw, gallwn hefyd ddarparu ar gyfer grwpiau ac efallai y byddwn yn gallu cynnal gweithdai preifat ar ddyddiad sy’n addas ar gyfer eich teulu, cydweithwyr neu’ch grŵp cymdeithasol. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

Sylwer: mae natur y safle a’r locomotifau eu hunain yn golygu bod yn rhaid i’r rhai sy’n bresennol allu cerdded ar draws arwynebau anwastad a dringo i fyny a dod i lawr oddi ar y locomotifau.

Gofynnwn i’r holl fynychwyr ddarllen yr wybodaeth ar dudalen we y Gweithdy yn ofalus a gwylio’r Briff Diogelwch, cyn archebu eich tocyn/tocynnau.

Oni hysbysebir yn wahanol mae’r holl weithdai a theithiau ar gyfer oedolion (16+)

Beth sydd angen i mi ei wybod cyn i mi gyrraedd?

Mae Boston Lodge yn safle peirianneg gweithredol gyda chledrau ac arwynebau anwastad ac yn aml mae’n fwdlyd mewn rhai llefydd. Mae hyn ogystal â symudiadau cerbydau a threnau sy’n digwydd yn aml. Am resymau diogelwch, dim ond ar gyfer pobl sy’n gallu symud o gwmpas heb gymorth ac sy’n gallu gweld peryglon eu hunain y mae’n addas. Gwyliwch y briff diogelwch hwn cyn archebu lle gan y bydd yn eich helpu i ddeall sut le yw’r safle.

Rydym yn gobeithio ffilmio rhai o’n teithiau a sicrhau eu bod ar gael ar y wefan fel y gall y rhai na allant fynychu gan fod y safle yn anaddas iddynt, allu darganfod mwy ar-lein.

Cyrraedd yma

Bydd Arweinydd Digwyddiad yn cyfarfod â chi yng Ngorsaf yr Harbwr ac yn rhoi briff diogelwch cychwynnol i chi cyn i chi gael eich hebrwng i Boston Lodge ar drên wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae llefydd parcio ar gael i ymwelwyr yn yr ardal â ffens o’i chwmpas ar ddiwedd maes parcio Llyn Bach gerllaw, cam byr i ffwrdd o Orsaf Harbwr Porthmadog. Mae parcio ar gael am ddim i deithwyr y rheilffordd yn y man hwn yn unig. Mae gweddill y maes parcio hwn yn cael ei gynnal gan y cyngor a dylid talu’r ffi briodol (gweler y map). Gall deiliaid bathodyn anabl barcio yn yr orsaf a dylent wneud eu hunain yn hysbys i westeiwr yr orsaf wrth iddynt gyrraedd.

Beth i’w wisgo

Gwisgwch ddillad cynnes a dewch â dillad dal dŵr efo chi, gall y tywydd fod yn anrhagweladwy. Gwisgwch esgidiau cerdded priodol, lledr yn ddelfrydol. Dim sandalau na trainers.